R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y gwnaeth y Gweinidog ei ystyried wrth ddyrannu'r gyllideb gyffredinol i bortffolio Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth? OAQ(4)0315(FIN)
2. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0316(FIN)W
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau diweddar y mae wedi eu cael gyda'r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi ynglŷn â chyllideb y portffolio hwnnw? OAQ(4)0314(FIN)W
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu faint o arian y mae sefydliadau a gynorthwyir gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru wedi’i fenthyg oddi wrth Fanc Buddsoddi Ewrop? OAQ(4)0313(FIN)
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0312(FIN)
6. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllideb drafft i'r portffolio Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar gyfer 2014-15? OAQ(4)0328(FIN)W
7. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Buddsoddi i Arbed? OAQ(4)0322(FIN)
8. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyflwyno dulliau arloesol o gyllido prosiectau cyfalaf? OAQ(4)0318(FIN)
9. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am baratoadau ar gyfer gostyngiadau pellach yn y grant bloc? OAQ(4)0320(FIN)
10. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Beth oedd blaenoriaethau'r Gweinidog wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio Cymunedau a Threchu Tlodi? OAQ(4)0325(FIN)W
11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gweithredu'r argymhellion yn adroddiad cyntaf Comisiwn Silk? OAQ(4)0317(FIN)W
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu adnoddau i'r portffolio Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn y gyllideb ddrafft ddiweddar? OAQ(4)0327(FIN)
13. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y berthynas rhwng cronfeydd strwythurol a ffynonellau eraill o gyllid yr UE? OAQ(4)0324(FIN)
14. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth ynglŷn â'r dyraniad cyllideb i'r portffolio hwnnw? OAQ(4)0323(FIN)
15. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â chyllido hirdymor y portffolio Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth? OAQ(4)0321(FIN)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr agenda cydweithio i gynghorau lleol yng Nghymru? OAQ(4)0323(LG)
2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o gronfeydd wrth gefn llywodraeth leol? OAQ(4)0337(LG)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn 2014 i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru? OAQ(4)0325(LG)
4. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arfer gorau ar gyfer mesurau arbed costau mewn llywodraeth leol? OAQ(4)0331(LG)
5. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau a roddir i lywodraeth leol ar ymgynghori â'r cyhoedd? OAQ(4)0324(LG)
6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Setliad Llywodraeth Leol dros dro ar gyfer 2014-15? OAQ(4)0338(LG)
7. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu safonau iaith Gymraeg mewn awdurdodau lleol? OAQ(4)0326(LG)W
8. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y setliad ariannol arfaethedig i Gyngor Sir Ynys Môn? OAQ(4)0336(FIN)W
9. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â masnachu mewn pobl yng Nghymru? OAQ(4)0327(LG)W
10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol yn rhanbarth Bae Abertawe dros y tair blynedd nesaf? OAQ(4)0332(LG)
11. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru? OAQ(4)0339(LG)
12. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido awdurdodau lleol yng Nghymru yn y dyfodol? OAQ(4)0328(LG)
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â darparu gwasanaethau yn y dyfodol? OAQ(4)0334(LG)
14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i archwilio'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cael eu hariannu? OAQ(4)0330(LG)
15. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu diogelwch cymunedol ym Mhontypridd? OAQ(4)0329(LG)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Comisiwn y Cynulliad roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i’r Cynulliad fabwysiadu’r parthau lefel uchaf .cymru a .wales at ddefnydd y rhyngrwyd ac e-bost? OAQ(4)0076(AC)